OFFERYNNAU STATUDOL cymru
2014 Rhif 2717 (Cy. 273)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chosbau penodedig, ac wedi eu gwneud o dan adran 13(3) a (4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn rhagnodi o fewn pa ystod y mae’n rhaid i swm cosb benodedig fod, sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12 o’r Ddeddf. Yr ystod yw rhwng £50 a £150, yn gynwysedig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL cymru
2014 Rhif 2717 (Cy. 273)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 9 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Hydref 2014
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 13(3) a (4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012([1]).
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau
Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru)
2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Ystod ragnodedig o gosbau penodedig
2. Yr ystod y mae’n rhaid i swm a bennir o dan adran 13(1)(a) o’r Ddeddf ddod oddi mewn iddi yw rhwng £50 a £150, yn gynwysedig.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2014